Ynni Gwyrdd
Cynhyrchu pŵer glân, gwyrdd adnewyddadwy o adnodd gwynt heb ei gyffwrdd yn y Môr Celtaidd. Mae 1GW o ynni yn ddigon i bweru tua 920, 000 o gartrefi.
Llai o allyriadau CO2
Bydd gwynt nofiol yn cyfrannu’n uniongyrchol at dargedau sero net llywodraethau’r DU a Chymru. Gallai prosiect 1 GW arbed tua 1,500,000 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn.
Creu Swyddi a Budd Economaidd
Gallai gwynt arnofiol alltraeth yn y Môr Celtaidd sicrhau dros 3,000 o swyddi a £682 miliwn mewn cyfleoedd cadwyn gyflenwi leol erbyn 2030, gan gefnogi cymunedau arfordirol a chreu buddion hirdymor i’r rhanbarth.
Amgylcheddol
Mae ffermydd gwynt arnofiol alltraeth yn manteisio ar wynt cyson a chryfach gyda llai o effaith weledol ar gymunedau ar y tir, tra’n lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil niweidiol.
Sicrwydd Cyflenwad Ynni
Mae datblygu ynni gwyrdd cartref yn golygu y gallwn gynyddu ein cyflenwadau ynni ein hunain a lleihau ein dibyniaeth ar ffynonellau ynni byd-eang. Bydd hyn hefyd yn helpu i sefydlogi prisiau a lleihau costau.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Yn cyfrannu at y Nod ‘Ffyniannus’ yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru – cymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel.
Addysg
Cyfleoedd addysg mewn cymunedau lleol i ddatblygu gweithlu lleol medrus.