Mae Gwynt Glas yn datblygu fferm wynt arnofiol alltraeth yn y Môr Celtaidd i gynhyrchu ynni glân a hybu ffyniant economaidd rhanbarthol, tra'n lleihau amhariad ar yr amgylchedd naturiol, cymunedau lleol a defnyddwyr y môr.

Cysylltiad grid
Elfen bwysig o’r prosiect yw sut mae wedi’i gysylltu â’r grid trydan fel bod modd dosbarthu’r ynni gwyrdd sy’n cael ei gynhyrchu i gartrefi a busnesau ledled y DU. Mae Gwynt Glas wedi arwyddo cytundeb cysylltiad grid 300 MW ac 1 GW gyda'r Grid Cenedlaethol.
Dewis technoleg
Ar hyn o bryd rydym yn dadansoddi pa dechnoleg a dyluniad platfform gwynt alltraeth arnofiol sydd fwyaf addas ar gyfer ein prosiect. Mae tîm Gwynt Glas yn canolbwyntio ar fod yn hyblyg ac yn ystwyth i addasu i'r dirwedd datblygu ynni gwynt ar y môr, technoleg a pholisi sy'n datblygu'n barhaus. Rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid a chymunedau lleol i wrando ar eu hadborth.
Arolygon ac ymgysylltu lleol
Dechreuom arolygon awyr o bell ar gyfer mamaliaid ac adar morol yng ngwanwyn 2021. Mae gweithgarwch ymgynghori cynar â physgodfeydd masnachol yn ogystal â llongau a mordwyo ar y gweill, a byddwn yn cyflwyno'r ymgysylltu hwn ar draws grwpiau rhanddeiliaid a chymunedau allweddol.
Mae ymgynghoriad cynnar â rhanddeiliaid yn helpu Gwynt Glas i:
1. Ddeall y cyfyngiadau lleol
2. Symud y prosiect ymlaen i'r sefyllfa orau bosibl i gyflymu'r broses ddatblygu

Cadwyn gyflenwi leol
Rydym yn parhau i gydweithio i gefnogi datblygiad porthladdoedd allweddol a seilwaith grid, mynd i'r afael ag anghenion sgiliau’r sector yn y dyfodol a nodi'r defnydd o gadwyni cyflenwi rhanbarthol lle bynnag y bo modd yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr.
Mae gan EDF hanes o adeiladu prosiectau seilwaith ar raddfa fawr tra'n sicrhau'r buddion lleol mwyaf posibl. Ar hyn o bryd rydym yn adeiladu Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf. Mae diwydiant a phobl Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth adeiladu'r orsaf bŵer newydd.