Y Gadwyn Gyflenwi

Datblygu cadwyn gyflenwi ranbarthol arbenigol a dibynadwy

Y Gadwyn Gyflenwi

Mae Gwynt Glas wedi cynnal digwyddiadau cadwyn gyflenwi lleol yn ne Cymru ac yn ne-orllewin Lloegr ar gyfer busnesau sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddatblygiadau gwynt alltraeth arnofiol Môr Celtaidd.

Darparwyd gwybodaeth i gefnogi busnesau i gymryd rhan mewn cyfleoedd posibl a fydd yn deillio o adeiladu a gweithredu prosiectau fel Gwynt Glas.

Supply chain event speaker showing slides about The Crown Estate Celtic Seas Leading Round
Supply chain event crowd engaged

Cadwyn gyflenwi leol

Rydym yn parhau i gydweithio i gefnogi datblygiad porthladdoedd allweddol a seilwaith grid, mynd i'r afael ag anghenion sgiliau’r sector yn y dyfodol a nodi'r defnydd o gadwyni cyflenwi rhanbarthol lle bynnag y bo modd yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr.

Mae gan EDF hanes o adeiladu prosiectau seilwaith ar raddfa fawr tra'n sicrhau'r buddion lleol mwyaf posibl. Ar hyn o bryd rydym yn adeiladu Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf. Mae diwydiant a phobl Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth adeiladu'r orsaf bŵer newydd.

“Rydym yn credu’n gryf y bydd Gwynt Glas yn gatalydd ar gyfer twf pellach yn y gadwyn gyflenwi ledled y DU sy’n rhywbeth rydym ni fel cwmni yn gefnogol iawn iddo. Byddwn yn defnyddio ein profiad ym maes ynni gwynt ar y môr i helpu i ddod â chyfleoedd i gwmnïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar y prosiect hwn.

Floating offshore wind is an exciting new technology and will bring much needed inward investment which can regenerate coastal economies and communities.”

Sioban Butler, Rheolwr Caffael

Bydd datblygu cadwyn gyflenwi ranbarthol arbenigol a dibynadwy yn rhan bwysig o brosiect Gwynt Glas, yn cefnogi cymunedau arfordirol a chreu buddion hirdymor i’r rhanbarth De Cymru a De Orllewin Lloegr.

Ffurflen Diddordeb Cadwyn Gyflenwi

Partneriaid Cadwyn Gyflenwi

Secret Link