Fferm Wynt Alltraeth Gwynt Glas – prosiect ynni adnewyddadwy arfaethedig yn y Môr Celtaidd – yn falch iawn o gyhoeddi bod 'Reef Cubes' wedi'u gosod yn Harbwr Falmouth mewn cydweithrediad â Sea-Changers, Our Only World ac Arc Marine.

Bydd y 14 ciwb a osodwyd ar y 15fed o Fai yn darparu cynefin ar gyfer amrywiaeth eang o rywogaethau morol, yn gwella bioamrywiaeth yn nyfroedd yr harbwr ac yn ymgysylltu â'r gymuned ynghylch effaith amgylcheddol a datblygiadau ynni gwynt ar y môr ar raddfa arnofiol.

Nod tîm prosiect Gwynt Glas yw gwneud y mwyaf o fanteision lle bo modd, ac mae hyn yn cyd-fynd â diben y 'Reef Cubes' hyn sy'n hybu bioamrywiaeth. Mae'r dyluniad yn darparu mannau byw i bysgod, crancod a chimychiaid, tra bod yr wyneb mandyllog yn galluogi planhigion morol i ffynnu.

Dywedodd Mark Hazelton, Cyfarwyddwr Prosiect Gwynt Glas:

"Rydym yn falch o gydweithio â Harbwr Falmouth ac elusennau sy'n canolbwyntio ar y môr – Sea-Changers ac Our Only World – i ddefnyddio datrysiad cynaliadwy sy'n hybu bioamrywiaeth, a weithgynhyrchwyd gan y cwmni Arc Marine o Gernyw. Mae'r fenter hon yn cyd-fynd yn berffaith â'n cenhadaeth i hyrwyddo arloesedd cynaliadwy a gwneud y mwyaf o fanteision lleol."

Mae Reef Cubes wedi'u cynllunio i adfywio ecosystemau morol bregus. Drwy gyflymu'r broses o greu riffiau ac atgyweirio ecosystemau, mae'n bosibl diogelu cyfleusterau hanfodol ar y môr a hyrwyddo bioamrywiaeth forol. Fe'u gwneir o agregau a thywod wedi'u hailgylchu, sy'n sgil-gynhyrchion o'r diwydiant chwarela.

Dywedodd Vicki Spooner, Rheolwr yr Amgylchedd yn Harbwr Falmouth:

"Rydym wrth ein bodd yn gosod ‘Reef Cubes’ yn ein harbwr. Fel y rhai sy’n gyfrifol amdano, mae iechyd a ffyniant ein dyfroedd lleol a’r rhai sy’n eu defnyddio o’r pwys mwyaf. Y llynedd, gosodwyd ‘Habitiles’ ar wal yr harbwr ac rydym wedi gweld pa mor gyflym y maent wedi cael eu poblogi gan fywyd morol. Rydym yn bwriadu gweithio gyda Phrifysgol Exeter i fonitro effaith ein ‘Reef Cubes’ newydd ac annog y gymuned leol i weld sut mae’r strwythurau hyn yn gwella ein hamgylchedd drwy ddenu bywyd morol a thwf planhigion dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod."

Dywedodd Rachel Lopata, cyd-sylfaenydd Sea-Changers – elusen genedlaethol cadwraeth forol sy'n cefnogi'r elusen leol Our Only World:

“Mae ein hangerdd yn ymwneud ag amddiffyn yr amgylchedd morol, ac mae Reef Cubes yn cynnig posibilrwydd cyffrous fel ‘blociau adeiladu ar gyfer y cefnfor’. Daeth y prosiect hwn – a ariannwyd drwy Sea-Changers ac a reolwyd yn lleol gan Our Only World – yn bosibl diolch i’r bartneriaeth â Gwynt Glas Floating Offshore Wind Farm. Mae Our Only World yr un mor ymroddedig â ni i gynaliadwyedd morol ac yn arbenigwyr ar ymgysylltu â’r gymuned yn y rhanbarth hwn; nhw fu’r partner perffaith ar gyfer y prosiect hwn.”

Fel rhan o ymrwymiad i godi ymwybyddiaeth, mae tîm prosiect Gwynt Glas hefyd yn gweithio gydag ysgolion lleol i addysgu disgyblion am bwysigrwydd yr amgylchedd morol, bioamrywiaeth ac ynni adnewyddadwy.

Dywedodd Mark Hazelton:

"Drwy ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, rydym yn gobeithio meithrin gwerthfawrogiad dwfn o'n cefnforoedd ac annog arweinwyr y dyfodol i flaenoriaethu eu gwarchod."

Fferm Wynt Alltraeth Gwynt Glas yn mynegi ei ddiolch diffuant i Sea-Changers, Our Only World, Falmouth Harbour ac Arc Marine am eu cefnogaeth wrth wireddu'r prosiect hwn. Mae wedi bod yn ymdrech wirioneddol gydweithredol.

Schools engagement showing reef cubes in action
Secret Link