Mae EDF Renewables UK ac ESB wedi llwyddo i sicrhau'r hawliau i ddatblygu Fferm Wynt Arnawf Alltraeth Gwynt Glas yn y Môr Celtaidd drwy Rownd Lesio 5 The Crown Estate. Mae gan y prosiect hwn y potensial i gynhyrchu hyd at 1.5 Gigawat (GW) o ynni adnewyddadwy, gan ddod â buddion sylweddol i gymunedau ar draws De Cymru a De-orllewin Lloegr.

Mae prosiect Gwynt Glas wedi’i ddewis drwy broses dendro gystadleuol ar gyfer gwely’r môr, sy’n dilyn mwy na thair blynedd o ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol i lywio’r dull gorau.

Fel rhan o'r broses dendro, cyflwynodd Gwynt Glas gynigion ar gyfer datblygu'r fferm wynt, ynghyd â chynlluniau i wneud y mwyaf o gyfleoedd gwerth cymdeithasol ac economaidd-gymdeithasol. Bydd gan y prosiect y potensial i ddarparu ynni gwyrdd i filiynau o gartrefi a chyfrannu at economi werdd y DU a'r rhanbarth, yn amodol ar yr asesiadau amgylcheddol perthnasol.

Dywedodd Matthieu Hue, Prif Swyddog Gweithredol EDF Renewables UK: "Rwyf wrth fy modd yn cyhoeddi ein bod ni, ynghyd â’n partner prosiect ESB, wedi sicrhau statws yr Ymgeisydd a Ffefrir gan The Crown Estate ar gyfer Cytundeb Prydles fel rhan o Broses Brydlesu Rownd 5."

"Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu fferm wynt ar y môr Gwynt Glas ymhellach, gan helpu'r DU i gynnal safle blaenllaw yn y farchnad yn y maes ynni gwynt arnofiol, ac yn cydnabod y rôl bwysig y gall ynni gwynt arnofiol ei chwarae yn uchelgais y DU i gyrraedd sero net."

Dywedodd Jim Dollard, Cyfarwyddwr Gweithredol yn ESB: "Mae ESB, mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yn EDF Renewables, wrth ein bodd ein bod wedi llwyddo ym mhroses ddyrannu gwely’r môr ‘Rownd 5’ The Crown Estate yn y Môr Celtaidd. Mae’r Môr Celtaidd o bwysigrwydd strategol i ESB oherwydd ei leoliad ger Iwerddon; mae’r cyfleoedd i ddatblygu prosiect ar y môr ar raddfa arnofiol – mewn ardal rydym yn credu sy’n ddelfrydol – yn argoeli’n dda ar gyfer ein huchelgeisiau i ddatblygu portffolio o brosiectau ynni gwynt arnofiol ar y môr yn Iwerddon a’r DU, gan gyfrannu at gynlluniau ‘sero net’ y ddwy wlad yn ogystal â chynlluniau ESB ei hun."

Mae prosiect Gwynt Glas yn rhan allweddol o strategaeth EDF Renewables UK i dyfu ei fusnes ynni adnewyddadwy yn y DU ac i gyfrannu at ddiogelwch ynni a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Gyda thri fferm wynt ar y môr eisoes yn gweithredu yn nyfroedd y DU, mae cyflwyno Gwynt Glas i biblinell ddatblygu'r cwmni yn cynnig cyfle gwych i fanteisio ar brofiad y grŵp o adeiladu fferm wynt arnofiol gyntaf Ffrainc ar y môr. I ESB, mae Gwynt Glas yn rhan bwysig o'i bortffolio cynyddol o ffermydd gwynt ar y môr ar draws Iwerddon a Phrydain Fawr, wrth i'r sefydliad weithredu ei strategaeth i gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2040.

Bydd y gweithgareddau datblygu a sicrhau caniatâd angenrheidiol yn symud yn eu blaenau yn unol â chanllawiau cyfredol Llywodraeth y DU; bydd hyn yn cynnwys ymgynghori'n helaeth â rhanddeiliaid a phennu maint y prosiect, lleoliad y tyrbinau a'r capasiti gosodedig. Disgwylir i'r broses o sicrhau caniatâd gymryd rhwng tair a phum mlynedd, gyda'r posibilrwydd y bydd y fferm wynt yn gweithredu'n llawn yn nechrau'r 2030au.

The Crown Estate Project Development Areas (PDA). Gwynt Glas has secured preferred bidder status of PDA 1.
Secret Link