Fferm Wynt Alltraeth Gwynt Glas wedi cyhoeddi heddiw fod ei fenter ar y cyd wedi’i chryfhau’n sylweddol, gyda Sumitomo Corporation yn ymuno fel partner cyfartal ochr yn ochr ag EDF Power Solutions UK and Ireland ac ESB. Mae gan bob partner gyfran o 33.33% bellach, tra bod DP Energy yn parhau i ddarparu cymorth datblygu hanfodol, gan fanteisio ar ei arbenigedd ym maes cyflawni prosiectau yn eu camau cynnar ac ymgysylltu â’r gymuned leol.

Mae'r cydweithrediad strategol hwn yn dwyn ynghyd dri arweinydd byd-eang mewn ynni adnewyddadwy gan gyfuno arbenigedd dwfn mewn datblygu a chyflenwi ar raddfa fawr. Mae'r bartneriaeth yn gosod Gwynt Glas mewn sefyllfa dda i symud ymlaen yn hyderus trwy ei gamau nesaf, gan atgyfnerthu ei rôl wrth ddarparu ynni glân, cartref i Gymru a'r DU wrth gefnogi diogelwch ynni a thwf economaidd.

Mae Gwynt Glas yn brosiect arfaethedig arloesol ar gyfer fferm wynt arnofiol alltraeth yn y Môr Celtaidd. Mae'r prosiect, sydd â chapasiti o hyd at 1.5GW, yn parhau i wneud cynnydd sylweddol ac wedi cyflwyno ei Adroddiad Cwmpasu i'r Arolygiaeth Gynllunio yn llwyddiannus yr haf hwn.

Dywedodd Matthieu Hue, Prif Swyddog Gweithredol EDF Power Solutions yn y DU ac Iwerddon:

"Rydym yn falch iawn o groesawu Sumitomo Corporation i dîm Gwynt Glas. Mae eu profiad byd-eang helaeth ym maes datblygu a buddsoddi mewn ynni gwynt ar y môr yn ategu ein profiad ni a phrofiad ESB, gan greu partneriaeth bwerus sydd wedi ymrwymo i gyflawni’r prosiect hanfodol hwn ar gyfer Cymru a’r DU."

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'n partneriaid newydd a'r rhai presennol."

Dywedodd Jim Dollard, Cyfarwyddwr Gweithredol Masnachu Cynhyrchu yn ESB:

"Rydym yn falch iawn o groesawu Sumitomo Corporation i brosiect Gwynt Glas, ac yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw ochr yn ochr â’n partneriaid hirsefydlog, EDF Power Solutions UK and Ireland. Mae hyn yn nodi cam arwyddocaol arall yn y cyfnod hwn o’r prosiect – cam sy’n hynod bwysig i ni yn ESB, gan y bydd ynni gwynt ar y môr yn gonglfaen i gyflawni ein strategaeth ar gyfer allyriadau carbon sero net.

Jun Minase, Rheolwr Cyffredinol, Uned Busnes Strategol Atebion Ynni Tramor yn Sumitomo Corporation:

"Rydym yn falch iawn o ymuno â phrosiect Gwynt Glas. Fel datblygiad ynni gwynt ar y môr ar raddfa fawr sy'n defnyddio tyrbinau arnofiol – ac sy'n cael ei ddatblygu gan EDF Power Solutions UK and Ireland ac ESB – mae'r prosiect yn cynnig cyfle pwysig i gyfrannu at y trawsnewid ynni. Gan fanteisio ar ein profiad a'n harbenigedd ym marchnad y DU ac yn y sector ynni gwynt ar y môr, bydd Sumitomo Corporation yn gweithio'n agos gyda'i bartneriaid i gefnogi datblygiad llwyddiannus y prosiect a gwella ei werth hirdymor. Mae'r Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn farchnad strategol bwysig i Sumitomo Corporation. Trwy'r buddsoddiad hwn, ein nod yw cyfrannu at uchelgeisiau Llywodraeth y DU ar gyfer 'Net Zero 2050', gan gefnogi'r trawsnewid ynni a'r gwaith o greu cymdeithas fwy cynaliadwy."

Am fwy o wybodaeth am Gwynt Glas ewch i: www.gwyntglas.com www.gwyntglas.com/cy

up close shot of offshore wind turbine
Secret Link