Mae’r tîm y tu ôl i Gwynt Glas, fferm wynt alltraeth arloesol arfaethedig yn y Môr Celtaidd, yn gwahodd trigolion lleol, busnesau a grwpiau cymunedol i gyfres o ddigwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ym mis Tachwedd.

Gyda’r potensial i gynhyrchu hyd at 1.5 gigawat o ynni adnewyddadwy, bydd Gwynt Glas yn cefnogi uchelgeisiau diogelwch ynni’r DU gan helpu i roi Cymru ar flaen y gad o ran ynni gwynt ar y môr y genhedlaeth nesaf a denu diwydiannau gwyrdd newydd i’r rhanbarth.

Bydd y digwyddiadau galw heibio anffurfiol yn canolbwyntio ar y gwaith ar y tir ac yn rhoi cyfle i’r gymuned leol gwrdd â thîm y prosiect, cael rhagor o wybodaeth am y cynigion drafft a deall y broses gydsynio. Mae hefyd yn gyfle i gymunedau rannu eu barn a darparu adborth lleol hanfodol a fydd yn helpu i siapio dyluniad a datblygiad y prosiect.

Cynhelir y sesiynau dros dri diwrnod yn olynol: Llandyfaelog - dydd Mawrth 17 Tachwedd (11am-4pm, Neuadd Gymunedol Llandyfaelog, SA17 5YD); Pen-bre - dydd Mercher 18 Tachwedd (11am-4pm, Canolfan Gymunedol Goffa Pen-bre, SA16 0AJ) a Cydweli - dydd Iau 19 Tachwedd (4pm–7pm, Canolfan Tywysoges Gwenllian, SA17 4UL).

Dywedodd Mark Hazelton, Cyfarwyddwr Prosiect Gwynt Glas:

"Rydyn ni wedi cyrraedd cam pwysig yn y gwaith o ddylunio Prosiect Gwynt Glas. Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni ein prosiect gyda chymunedau ac mae gwybodaeth leol yn hanfodol i’n helpu i wneud hyn yn iawn. Rydyn ni eisiau dylunio prosiect sydd nid yn unig yn darparu ynni glân a diogel ond sydd hefyd yn parchu ac yn cefnogi’r amgylchedd a’r cymunedau lleol.”

“Os ydych chi eisiau gofyn cwestiynau am yr hyn sy’n cael ei gynnig, deall lle gallai’r ceblau fynd neu rannu eich barn am ystyriaethau amgylcheddol lleol, dewch draw. Mae’r tîm yn edrych ymlaen at groesawu pawb.”

Os nad ydych chi’n gallu dod i’r digwyddiadau wyneb yn wyneb, bydd yr holl fyrddau gwybodaeth, mapiau prosiect a ffurflenni adborth ar gael ar wefan y prosiect rhwng 16 Tachwedd a 11 Rhagfyr yn https://gwyntglas.com/cy/.th November – 11th December at www.gwyntglas.com/cy.

Gwybodaeth am EDF power solutions UK and Ireland

Mae EDF power solutions UK and Irelandwww.edf-powersolutions.ukyn is-gwmni i’r EDF Group, sef un o gwmnïau trydan carbon isel mwyaf y byd, ac mae ein buddsoddiad a’n harloesedd yn lleihau costau i ddefnyddwyr ac yn dod â manteision sylweddol i gymunedau.

Gyda’n portffolio gweithredu o 50 o safleoedd ynni adnewyddadwy sy'n cynnwys batri, gwynt ar y tir a gwynt alltraeth, rydym yn darparu trydan carbon isel fforddiadwy y mae mawr ei angen. Mae gennym bortffolio cynyddol o brosiectau gwynt, batri a solar yn y camau cynllunio, datblygu ac adeiladu, ac rydym yn bwriadu cyrraedd 10 GW erbyn 2035.

Gwybodaeth am ESB   

Sefydlwyd ESB ym 1927 yn gorff statudol o dan Ddeddf (Cyflenwi) Trydan, 1927. Gyda daliad o 97.7%, mae ESB yn eiddo’n bennaf i Lywodraeth Iwerddon. Mae’r 2.3% sydd ar ôl yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr Cynllun Perchnogaeth Cyfranddaliadau Cyflogeion. Fel cyfleustod cryf ac amrywiol, mae ESB yn gweithredu ar draws y farchnad drydan, o gynhyrchu i drawsyrru a dosbarthu, i gyflenwi cwsmeriaid yn ogystal â defnyddio ein rhwydweithiau i gludo ffeibr ar gyfer telathrebu.

Ewch i esb.ie i gael gwybod mwy am ESB.  

Amdan Sumitomo Corporation

Mae Sumitomo Corporation (TYO: 8053) yn gwmni masnachu a buddsoddi busnes integredig gyda rhwydwaith byd-eang cryf sy’n cynnwys swyddfeydd mewn dros 60 o wledydd a rhanbarthau. Mae Sumitomo Corporation Group yn cynnwys tua 500 o gwmnïau ac 80,000 o weithwyr ar sail gyfunol. Mae gweithgareddau busnes y Grŵp wedi’u gwasgaru ar draws y deg grŵp canlynol:~: Dur, Modurol, Systemau Trafnidiaeth ac Adeiladu, Datblygiadau Trefol Amrywiol, Gwasanaethau Cyfathrebu, Deallusrwydd Artiffisial Digidol, Busnesau Ffordd o Fyw, Adnoddau Mwynhau, Datrysiadau Cemegol a Busnes Trawsnewid Ynni. Mae Sumitomo Corporation wedi ymrwymo i greu mwy o werth i gymdeithas o dan y neges gorfforaethol o “Gyfoethogi Bywydau a’r Byd”, sy’n seiliedig ar egwyddor Sumitomo ar gyfer busnes, sydd wedi cael ei rhannu ers dros 400 mlynedd. Sumitomo Corporation

I gael rhagor o wybodaeth:

Ffion Davies

Rheolwr Materion Allanol Cymru

EDF power solutions

E: Ffion.Davies@edf-power.com

T +44 7920 287728

W: www.gwyntglas.com/cy

Ardal Fferm Wynt Gwynt Glas a ffin gwmpasu

Gwynt Glas Wind Farm area and scoping boundary
Secret Link