Amdan

Gwynt Glas

Rydym eisiau darparu ynni glân a hybu ffyniant rhanbarthol

Ein nod yw datblygu cynhyrchu ynni gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd i gynhyrchu ynni glân a hybu ffyniant economaidd rhanbarthol, tra'n lleihau aflonyddwch i'r amgylchedd naturiol, cymunedau lleol a defnyddwyr môr.

Dilynwch y ddolen hon i ddarganfod mwy am gyfle prydlesu gwynt arnofiol Ystâd y Goron yn y Môr Celtaidd. - Offshore Wind Leasing Round 5 | The Crown Estate

Litter picking on pebble beach
Gwynt Glas team in PPE next to wind turbine blade

Tîm ystwyth

Rydym yn dîm ystwyth o unigolion profiadol ac ymroddedig iawn. Os byddwn yn llwyddiannus yn ein cais am Gytundeb Prydles gan Ystad y Goron bydd angen mwy o bobl i ymuno â ni i ddatblygu'r cyfle a mynd â'r prosiect trwy’r broses gynllunio a thu hwnt.

“Gyda ffocws cynyddol ar fynd i’r afael â newid hinsawdd a sicrhau cyflenwadau ynni, mae’n rhaid datblygu technolegau adnewyddadwy a’u cyflwyno’n gyflym, ac mae angen i ni adeiladu gweithlu medrus i gyflawni ein cynlluniau.”

Sioban Butler, Arweinydd Cyllid a Chaffael

Darganfyddwch fwy am gyfleoedd i weithio gydag EDF power solutions: yma

Arolygon ac ymgysylltu lleol

Dechreuom arolygon awyr o bell ar gyfer mamaliaid ac adar morol yng ngwanwyn 2021. Mae gweithgarwch ymgynghori cynar â physgodfeydd masnachol yn ogystal â llongau a mordwyo ar y gweill, a byddwn yn cyflwyno'r ymgysylltu hwn ar draws grwpiau rhanddeiliaid a chymunedau allweddol.

Mae ymgynghoriad cynnar â rhanddeiliaid yn helpu Gwynt Glas i:
1. Ddeall y cyfyngiadau lleol
2. Symud y prosiect ymlaen i'r sefyllfa orau bosibl i gyflymu'r broses ddatblygu

Fisherman

Mae tîm Gwynt Glas wedi ymrwymo i’r cysyniad o fod yn ‘gymydog da’ a hyrwyddo ein gwerthoedd prosiect craidd yn y ffordd rydym yn gwneud busnes. Byddwn bob amser yn ymdrechu i fod yn:

Gyfrifol

Datblygwr cyfrifol, yn dangos agwedd ystyriol drwy gydbwyso effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn ogystal â gwneud y gorau o fuddion rhanbarthol lleol.

Credadwy

Cyflawni ymchwil ar sail tystiolaeth.

Hawddgar

Tîm hawdd mynd ato, cymwys, ymatebol a rhyngweithiol.

Dibynadwy

Datblygwr y gellir ymddiried ynddo ac sy’n cael ei barchu gydag ethos cryf o gyflwyno buddion hirdymor, yn enwedig i Gymru a de-orllewin Lloegr.

Cynhwysol

Gwrando a dysgu drwy ymgynghori a rhyngweithio â phartneriaid, busnesau lleol a chymunedau.

Pembrokeshire coastal image

Ein hamcan cyffredinol yw cynhyrchu ynni gwyrdd tra'n lleihau'r effeithiau ar yr amgylchedd a defnyddwyr y môr

Mae’r broses gynllunio ar gyfer prosiectau ynni mawr a chymhleth yn hir a thrylwyr, sy’n cynnwys caniatâd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â mewnbwn gan awdurdodau lleol a chyngor arbenigol gan asiantaethau statudol.

Ystyrir bod cynlluniau ynni o'r maint hwn yn Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol ac fe'u pennir drwy'r broses Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) a reolir gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Ysgrifennydd Gwladol y DU, yn seiliedig ar unrhyw argymhellion a wneir gan yr Arolygydd Cynllunio.

Mae datblygu prosiect o'r maint hwn yn gostus ac yn cymryd amser ac mae angen edrych yn fanwl ar nifer o ffactorau. Mae’n rhaid inni ystyried yr effeithiau ecolegol yn erbyn budd cynhyrchu ynni glân, pa dechnolegau sydd orau a chynllun y fferm wynt, sut y byddwn yn trosglwyddo’r trydan a gynhyrchir i’r tir, o ble a sut y byddwn yn caffael yr offer a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnom, ar yr un pryd â cheisio lliniaru unrhyw effeithiau y gall y prosiect eu cael ar yr amgylchedd a rhanddeiliaid tra'n cadw costau mor isel â phosibl.

Mae angen i ni ddangos sut rydym wedi archwilio'r ffactorau hyn a pha gasgliadau rydym wedi dod iddynt yn ein ceisiadau cynllunio ac mae'r broses gynllunio wedi'i dylunio i archwilio ein gwaith yn drylwyr.

Wrth galon y broses gynllunio mae ymgynghori – gydag arbenigwyr pwnc, gydag aelodau o’r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, a chydag asiantaethau statudol. Gall pawb ddweud eu dweud ar y prosiect drwy'r broses DCO.

Mae angen Trwydded Forol ar ddatblygiadau yn y môr hefyd. Yn nyfroedd Cymru, mae hyn yn cael ei ganiatáu gan gorff Llywodraeth Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru.

Rhennir y broses gynllunio yn pum adran:

number 1 icon

Cyn-ymgeisio

Cyn cyflwyno cais datblygu, mae gennym ddyletswydd statudol i ymgynghori ar ein cynigion. Byddwn yn ymgynghori ar effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd posibl y cynnig gyda chyrff statudol, awdurdodau lleol, y cymunedau lleol a rhanddeiliaid sy'n debygol o gael eu heffeithio. Mae ymgynghori’n gynnar ac mor eang â phosibl â chymunedau, busnesau a grwpiau hefyd yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni lunio prosiect sy’n lleihau unrhyw effaith ar randdeiliaid a defnyddwyr eraill yn ogystal â chyflawni prosiect sy’n adlewyrchu blaenoriaethau lleol ac yn darparu buddion lleol.

 

Y cam hwn yw'r amser gorau i ddylanwadu ar brosiect, felly cysylltwch â ni a chymerwch ran.

Rynym nawr wedi cyflwyno fersiwn gyntaf y Ddogfen Rhaglen i'r Arolygiaeth Gynllinio. Mae'r ddogfen honyn nodi'r prif gamau yr ydym bwriadu cymryd a gellir ei gweld yma: Project Programme

Wrth i amserlen y prosiect fynd yn ei blaen, bydd y ddogfen hon yn cael ei diweddaru.

Cyflwyniad Adroddiad Cwmpasu

Rydyn ni wedi cyflwyno ein Hadroddiad Cwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol i’r Arolygiaeth Gynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Sefydliad Rheoli Morol.

Mae’r cyflwyniad yn gwneud cais ffurfiol am farn rhanddeiliaid ynghylch yr amlinelliad o’r pynciau a’r methodolegau y bwriedir eu cynnwys yn yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.

Mae'r dogfennau hyn i'w gweld yma: wefan yr Arolygiaeth Gynllunio.

number 2 icon

Cais a derbyn

Yn dilyn ymgynghoriad, ac asesiadau amgylcheddol ac arolygon, cyflwynir y cais yn ffurfiol. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, yn penderfynu o fewn 28 diwrnod a yw’n bodloni’r safonau gofynnol i’w hystyried. Os cânt eu derbyn, bydd yr holl ddogfennau cynllunio ar gael i'r cyhoedd.

number 3 icon

Cyn-archwilio

Ar y cam hwn, gall aelodau'r cyhoedd gofrestru fel Parti â Diddordeb a chyflwyno eu barn yn ysgrifenedig. Penodir Awdurdod Archwilio a gwahoddir pawb sydd â diddordeb i fynychu cyfarfod rhagarweiniol, a gaiff ei gynnal a’i gadeirio gan yr Awdurdod Archwilio. Nid oes amserlen statudol ar gyfer cam hwn y broses, er ei fod fel arfer yn cymryd tua thri mis. Cyhoeddir amserlen yr archwiliadau. Bydd Partïon â Diddordeb yn cael gwybod am y weithdrefn.

number 4 icon

Archwilio

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn archwilio’r cais o fewn chwe mis. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y gwahoddir Partïon â Diddordeb sydd wedi cofrestru i ddarparu rhagor o fanylion am eu barn yn ysgrifenedig.

number 5 icon

Argymhelliad a Phenderfyniad

O fewn tri mis, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn llunio adroddiad ac yn gwneud argymhellion ar y cais. Ystyrir y rhain gan yr Ysgrifennydd Gwladol, sydd â thri mis arall i ystyried y cais cyn cyhoeddi penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi neu wrthod caniatâd datblygu.

Ymgynghoriad

Fel rhan o'n hymgynghoriad, mae angen inni ddeall eich barn. Os ydych yn aelod o grŵp neu sefydliad, yn bartner posibl, yn fusnes lleol, neu'n berson â diddordeb, hoffem glywed eich adborth neu gyngor.

Gwynt glas consultation session with a group of adults
Gwynt glas consultation session

Digwyddiadau Ymgynghori Galw Heibio Pysgodfeydd Masnachol

Yn ystod 2022 cwrddom â chynrychiolwyr o bysgodfeydd lleol a busnesau i rannu ein cynnig prosiect cam cynnar a chael adborth a gwybodaeth werthfawr am yr ardal leol. Cynhaliwyd digwyddiadau yn Aberdaugleddau, Brixham, Newlyn, a Padstow. Diolch i bawb a fynychodd.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn, anfonwch e-bost atom i: info@gwyntglas.com

Mae ein partneriaethau yn ein gwneud ni'n gryfach

Cydweithio

Mae cydweithio’n allweddol i adeiladu diwydiant cynaliadwy newydd lle mae pawb ar eu hennill a lle mae newid cyfiawn i sero net. Mae tîm prosiect Gwynt Glas yn gweithio ar y cyd ar draws pob maes datblygu prosiect i gyflymu’r broses o gyflawni’r canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol gorau posibl.

Milford Haven Waterway Future Energy Cluster Members group photo

Developers

EDF Power Solutions logo

Mae EDF power solutions UK a ESB wedi creu partneriaeth i ddatblygu Fferm Wynt Alltraeth Arnofiol Gwynt Glas. Mae’r partneriaeth hefyd yn gweithio gyda thîm DP Energy yn Sir Benfro, partner datblygu unigryw yn y prosiect, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd lleol.

Mae EDF power solutions DU ac Iwerddon yn is-gwmni i Grŵp EDF ac un o gwmnïau trydan carbon isel mwyaf y byd. Mae ein buddsoddiad a'n harloesedd yn lleihau costau i ddefnyddwyr ac yn dod â manteision sylweddol i gymunedau. Gyda’n portffolio gweithredu o 48 o safleoedd ynni adnewyddadwy gan gynnwys batris, gwynt ar y tir ac ar y môr (gyda’i gilydd yn fwy na 1.5 GW) rydym yn darparu trydan fforddiadwy, carbon isel y mae mawr ei angen ledled y DU ac Iwerddon. Mae gennym bortffolio sy'n ehangu gyda bron i 14 GW o brosiectau wrthi’n cael eu cynllunio a’u datblygu, gan gynnwys gwynt, batris a PV solar.

ESB Energy for generations logo

Sefydlwyd ESB ym 1927 fel corff statudol o dan Ddeddf Trydan (Cyflenwi), 1927. Gyda daliad o 96.9 y cant, mae mwyafrif ESB yn eiddo Llywodraeth Iwerddon. Mae'r 3.1 y cant sy'n weddill yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr Cynllun Perchnogaeth Cyfranddaliadau Gweithwyr. Fel cyfleustod cryf, amrywiol, mae ESB yn gweithredu ar draws y farchnad drydan, o gynhyrchu trwy drawsyrru a dosbarthu, i gyflenwi cwsmeriaid yn ogystal â defnyddio ein rhwydweithiau i gludo ffibrau ar gyfer telathrebu.

Ar ddiwedd y flwyddyn 2022, roedd gan ESB sylfaen asedau a reoleiddir o tua €12.0 biliwn (sy’n cynnwys €9.7 biliwn Rhwydweithiau ESB a €2.3 biliwn Rhwydweithiau NIE), cyfran o 30 y cant o gynhyrchu ym marchnad yr ynys gyfan, a busnesau cyflenwi yn cyflenwi trydan a nwy i dros ddwy filiwn o gyfrifon cwsmeriaid ledled ynys Iwerddon a Phrydain. Ym mis Mehefin 2023, roedd ESB Group yn cyflogi bron i 9,000 o bobl.

Mae Sumitomo Corporation (TYO: 8053) yn gwmni masnachu a buddsoddi busnes integredig gyda rhwydwaith byd-eang cryf sy’n cynnwys swyddfeydd mewn dros 60 o wledydd a rhanbarthau. Mae Sumitomo Corporation Group yn cynnwys tua 500 o gwmnïau ac 80,000 o weithwyr ar sail gyfunol. Mae gweithgareddau busnes y Grŵp wedi’u gwasgaru ar draws y deg grŵp canlynol:~: Dur, Modurol, Systemau Trafnidiaeth ac Adeiladu, Datblygiadau Trefol Amrywiol, Gwasanaethau Cyfathrebu, Deallusrwydd Artiffisial Digidol, Busnesau Ffordd o Fyw, Adnoddau Mwynhau, Datrysiadau Cemegol a Busnes Trawsnewid Ynni. Mae Sumitomo Corporation wedi ymrwymo i greu mwy o werth i gymdeithas o dan y neges gorfforaethol o “Gyfoethogi Bywydau a’r Byd”, sy’n seiliedig ar egwyddor Sumitomo ar gyfer busnes, sydd wedi cael ei rhannu ers dros 400 mlynedd. Sumitomo Corporation

Delivery partner

DP Energy logo

Mae DP Energy yn gwmni Gwyddelig sy'n datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws y byd. Gyda'i bencadlys yn Corc, Iwerddon, mae DP Energy hyd yma wedi datblygu dros 1GW o brosiectau ynni adnewyddadwy sydd wedi cael eu hadeiladu ac sy’n weithredol. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector ynni adnewyddadwy byd-eang, mae DP Energy wedi ymrwymo 100% i ddefnyddio'r dulliau mwyaf cynaliadwy ac amgylcheddol gyfrifol yn eu holl ddatblygiadau ynni. A hwythau’n gweithredu yn y DU ers y 1990au i gyflawni prosiectau gwynt ar y tir, agorodd DP Energy swyddfa yn Noc Penfro yn 2021 i ganolbwyntio ar gyfleoedd gwynt arnofiol y Môr Celtaidd, tra’n bwrw ymlaen â chynllun prosiectau’r DU a Marchnadoedd Newydd.

Partneriaid Diwydiant

Secret Link